Terfynau Iawndal
Bydd y lefel wirioneddol o iawndal a gewch yn dibynnu ar sail eich hawliad. Dim ond am golled ariannol y telir iawndal gan yr FSCS. Pennir terfynau iawndal fesul unigolyn fesul cwmni, ac fesul categori hawliad (a restrir isod).
Mae terfynau a rheolau ychydig yn wahanol yn gymwys os oes gennych hawliad yn erbyn yswiriwr neu fanc a oedd yn fethdalwr cyn i'r FSCS ddod yn weithredol (1 Rhagfyr 2001), neu os yw eich hawliad yn erbyn cwmni buddsoddi a ddatganwyd yn ddiffygdalwr cyn i'r FSCS ddod yn weithredol.
Mae'r lefelau uchaf o iawndal a delir gennym fel a ganlyn:
Adneuon: £85,000 fesul unigolyn fesul cwmni (ar gyfer hawliadau yn erbyn cwmnïau sydd wedi'u datgan yn ddiffygdalwyr o 31 Rhagfyr 2010).
100% o £85,000.
Am ragor o fanylion ewch i'n tudalen Deposit Limits.
Buddsoddiadau: £50,000 fesul unigolyn fesul cwmni (ar gyfer hawliadau yn erbyn cwmnïau sydd wedi'u datgan yn ddiffygdalwyr o 1 Ionawr 2010).
100% o'r £50,000 cyntaf.
Am ragor o fanylion ewch i'n tudalen Investment Limits.
Cyllid y Cartref (e.e. cyngor ar forgais a'i drefnu): £50,000 fesul unigolyn fesul cwmni (ar gyfer hawliadau yn erbyn cwmnïau sydd wedi'u datgan yn ddiffygdalwyr o 1 Ionawr 2010).
100% o'r £50,000 cyntaf.
Am ragor o fanylion ewch i'n tudalen Home Finance Limits.
Busnes Yswiriant: anghyfyngedig.
90% o'r hawliad heb derfyn uchaf. Caiff yswiriant gorfodol ei ddiogelu'n llawn.
Am ragor o fanylion ewch i'n tudalen Insurance Limits.
Cyngor cyffredinol ar yswiriant a'i drefnu: anghyfyngedig (ar gyfer busnes ar 14 Ionawr 2005 neu wedi hynny).
90% o'r hawliad heb derfyn uchaf. Caiff yswiriant gorfodol ei ddiogelu'n llawn.
Am ragor o fanylion ewch i'n tudalen Insurance Limits.
