Rheolau Cymhwysedd
I gael iawndal rhaid i chi fod yn gymwys o dan ein rheolau. Amlinellir y rheolau hyn yn yr FSA Handbook, sydd ar gael o dan Redress, Compensation.
Maent yn nodi pa fath o hawliad sy'n gymwys am iawndal, ac yn disgrifio faint o iawndal rydym yn cael ei dalu. Rhaid i ni gadw at y rheolau hyn bob amser.
Y prif bwyntiau yw:
- Dim ond pan mae cwmni sydd wedi'i awdurdodi yn ddiffygdalwr y gallwn dalu iawndal. Byddwn yn cynnal ymchwiliad i weld ai dyma'r achos.
- Dim ond am golled ariannol y gallwn dalu iawndal ac mae terfynau i faint o iawndal y gallwn ei dalu.
- Sefydlwyd yr FSCS yn bennaf i gynorthwyo unigolion preifat, er bod busnesau llai hefyd yn cael eu cwmpasu.
- Ni chwmpesir busnesau mwy fel rheol, er bod rhai eithriadau i hyn yn achos hawliadau sy'n ymwneud ag adneuon ac yswiriant.
